
Simon Chandler
Partner
Mae Simon yn bartner yn y cwmni. Fe dderbyniwyd Simon yn gyfreithiwr ym 1988 ac mae wedi arbenigo mewn trawsgludo masnachol (gan gynnwys datblygu tir), er ei fod yn darparu cyngor a chymorth ym maes masnach hefyd (ymysg gwasanaethau cyfreithiol eraill).
Yn ychwanegol, mae Simon yn siarad Cymraeg ac Almaeneg, mae'n aelod o Sefydliad Siartredig yr Ieithyddion ac mae ganddo Dystysgrif Gyfieithu gan y sefydliad hwnnw (o'r Almaeneg i'r Saesneg).
Mae Simon yn briod gydag un mab sydd bellach yn oedolyn, ac mae hefyd yn awdur, yn golofnydd ac yn englynwr.